Mentrau Iaith Cymru

 

yn hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned
promoting the Welsh language in the community

English

Gwybodaeth


Prosiectau


Cysylltiadau

Cefnogwch

Newyddion 1

Hwyl Gwyliau'r Mentrau Iaith

Hwyl Gwyliau'r Mentrau Iaith
Mae nifer o Fentrau Iaith ar draws Cymru yn trefnu cyfres o weithgareddau dros gyfnod o benwythnos neu wythnos i hybu'r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd.
Ymhlith y gwyliau hyn mae
Tafwyl yn Nghaerdydd Tafwyl

Bedroc ym Merthyr

Gwyl Cefni Ynys Môn

Gŵyl Bro Dinefwr
Hwyl Gwyliau'r Mentrau Iaith
22/06/2009

Cynhadledd Menter Patagonia

Cynhadledd Menter Patagonia
Cynhadledd Undydd. 3 Mehefin, Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth. 10.00 y bore hyd 3.30 y pnawn.

Dyma amcanion y cynllun;
• Creu cyfleoedd i Gymdeithasu trwy’r Gymraeg yn y Wladfa
• Creu cyfleoedd i unigolion o’r Wladfa i astudio a gweithio yng Nghymru.
• Creu cyfleoedd i unigolion o Gymru wneud gwaith Gwirfoddol yn y Wladfa efo’r Cynllun Dysgu Cymraeg ac efo’r Fenter Iaith.
• Magu cysylltiadau, datblygu cyfleoedd sy’n cryfhau’r Gymraeg yn y Wladfa a Chymru.
Mae’r cynllun ar fin dechrau ei ail flwyddyn ac rydym yn awyddus i drafod datblygu’r cynllun i’w lawn botensial.

Cyfle i drafod y cynllun ac datblygu syniadau.

Bydd agenda a siaradwyr yn cael eu cadarnhau yn fuan.

Os hoffwch fynychu cysylltwch efo iwan@menteriaithconwy.cymru247.net
19/05/2009

Taflen Newydd

Taflen Newydd
Mae Mentrau Iaith Cymru wedi cyhoeddi taflen newydd sy'n rhestru'r holl fentrau yng Nghymru. Lansiwyd y daflen yn Eisteddfod yr Urdd gyda Ceri Morgan o Bwyllgor Gwaith MIC yn cyflwyno copi i Sian Lewis, Menter Caerdydd.
Taflen Newydd
25/05/2009

Dweud eich dweud am wasanaeth Cymraeg

Dweud eich dweud am wasanaeth Cymraeg
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Rhoddir dyletswydd ar y cyrff hynny i baratoi cynlluniau iaith Gymraeg sy’n egluro pa wasanaethau a gynigir yn y Gymraeg, sut a phryd.
Yn ogystal mae’r Ddeddf yn gosod proses sy’n caniatáu i aelodau’r cyhoedd gwyno am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg gan gyrff sydd â chynlluniau Iaith Gymraeg.
Mae polisi cyhoeddus yng Nghymru’n mynnu bod darparwyr gwasanaethau’n cynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr, gan ystyried yn llawn llais y dinesydd wrth ddatblygu gwasanaethau. Amcan y Bwrdd yw sicrhau llais cryf i siaradwyr Cymraeg o fewn cynllunio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Un ffordd o gyflawni hyn yw rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg ddweud eu dweud am wasanaethau Cymraeg, a hynny drwy gynyddu ymwybyddiaeth am y drefn statudol ar gyfer cwyno am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg.
Yn ddiweddar cynhyrchodd BYIG lyfryn cwynion sy’n egluro pa wasanaethau y gellir disgwyl eu derbyn yn Gymraeg a sut i gwyno am ddiffyg y gwasanaethau hynny. Eglurir hefyd y cymorth sydd ar gael gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg i unigolion sy’n cael trafferth cael gwasanaeth Cymraeg. Ar yr un pryd cyhoeddwyd gwybodaeth ar wefan y Bwrdd am y drefn cwyno am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg, yn ogystal â ffurflen electronig syml y gellir ei defnyddio er mwyn cyflwyno cwyn i’r Bwrdd. Mae copïau o’r llyfryn ar gael yn rhad ac am ddim.
Gellir unai gwneud cais am gopïau caled o’r pecyn drwy gysylltu â’r Bwrdd neu mae’r pecyn ar gael yn electronig ar y wefan:
http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/gwas anaethau/
Pages/SutigwynoamddiffyggwasanaethCymra eg.aspx
12/05/2009

Mentrau Iaith Cymru| Cysylltwch |
MENTRAU IAITH CYMRU CYF. Y SGWAR. LLANRWST. CONWY. LL26 0LG Cwmni Cofrestredig Rhif:. 04134269