|
yn hyrwyddo'r
Gymraeg yn y gymuned |
|
|
MENTRAU IAITH CYMRU
Y SGWAR. LLANRWST.
CONWY. LL26 0LG
01492 642357
Mudiadau lleol yw Mentrau Iaith, sy’n rhoi cymorth i gymunedau i gynyddu ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae Menter Iaith yn gweithio ar draws un sir fel arfer, ac yn adlewyrchu awydd pobl leol i wneud mwy o ddefnydd o’r iaith. Bydd y Mentrau yn rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ac yn cynnal gweithgareddau er mwyn codi proffil yr iaith.
Cewch wybodaeth am ba ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog sydd ar gael yn eich ardal chi, a sut i gael hyd iddo. Dyma’r ffenest siop leol yn eich ardal ar gyfer yr iaith Gymraeg!
Bellach mae yna rwydwaith o Fentrau Iaith ar draws Cymru, ac mae’n debygol iawn fod Menter yn eich ardal chi. Edrychwch ar y map i ddarganfod eich Menter leol.
Bydd eich Menter yn rhoi cyngor neu help ymarferol i chi, a hynny’n aml yn rhad ac am ddim. Mae pob Menter yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan ddibynnu ar yr anghenion lleol, megis -
Cyngor
Gweithgareddau
Chwaraeon
Beicio Mynydd
Canŵio
Cerdded
Clwb Achub Bywyd
Cystadleuaeth Pêl-droed
Cystadleuaeth Rygbi
Dringo
Eirafyrddio
Golff
Hwylfyrddio
Ioga
Merlota
Nofio
Pysgota
Syrffio
Boreau coffi
Clwb Cymdeithasol i blant
ag Anghenion Arbennig
Clybiau clocsio
Coginio
Corau Ieuenctid
Cwisiau
Cyri a chan
Gigs Ieuenctid
Gweithdai roc
Nosweithiau cwis
Nosweithiau ffilm
Sesiynau blasu
Teithiau i bobol ifanc
Barddoni
Celf a chrefft
Cerddoriaeth
Cyngherddau
Dawns
Drama i Blant
Drama i Oedolion
Ffotograffiaeth
Sioe Cwmni Perfformio
Sbarc
Sioe Dalent
Teithiau diwylliannol
Theatr
Ysgol Berfformio
Clonc a phaned
Sadwrn Siarad
Sesiynau Cymraeg
Ysgolion Ail Iaith
Siop Siarad
Teithiau cerdded
Bwrlwm y Bannau
Eisteddfod Cylch
Eisteddfod Sir
Gigs Tyrfe Tawe
Gwener y Grolch
Gwyl Bedroc
Gwyl Bro Dinefwr
Gŵyl Cefni
Gŵyl Fwyd
Gŵyl Hwyl Llandybie
Gŵyl Menter Bro Ogwr
Gŵyl Pentre Byd Eang
Gŵyl Y Ffin
Gŵyl Y Gwach
Llanast Llanrwst
Stondinau mewn Gwyliau/
Sioeau ayb
Tafwyl
Tyrfe Tawe