Mentrau Iaith Cymru

 

yn hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned
promoting the Welsh language in the community

English

Gwybodaeth


Prosiectau


Cysylltiadau

Cefnogwch

Gwefannau y Mentrau Iaith

Gwefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg

 

 

Cynlluniau Bwrdd yr Iaith Gymraeg
i Hybu'r Iaith yn y Gymuned

 

Cymorth ar fagu plant yn ddwyieithog

Cliciwch

 

Llinell Gwaith Cartref

Cefnogi Gwaith CartrefO fis Medi 2007 bydd gwasanaeth y Llinell Cefnogi Gwaith Cartref ar gael i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Lansiwyd y Llinell Cefnogi Gwaith Cartref gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn Nhachwedd 2005.  Cynigiwyd y gwasanaeth yn wreiddiol i ysgolion cynradd yn unig, ond bellach mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnig  i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ogystal.
Nod y Llinell yw cynnig cefnogaeth i rieni a phlant sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.  Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth gyda geirfa neu dermau Cymraeg, ynghyd â chymorth ymarferol ar faterion cyffredinol yn ymwneud â helpu gyda gwaith cartref.
Mae’r gwasanaeth ar gael o Ddydd Sul i Ddydd Gwener o 3 y prynhawn tan 9 y nos. Gellir cysylltu drwy ffonio 0871 230 0029 neu e-bostio post@gwaithcartref.com neu post@homeworkinwelsh.com.

Pwrpas y llinell yw cynnig cyngor ar sut i helpu gyda gwaith cartref i rieni di Gymraeg a rhoi cymorth gyda geirfa neu dermau Cymraeg i rieni sydd yn medru'r Gymraeg. Gellir cysylltu drwy ffonio 0871 230 0029 neu drwy anfon e-bost at cymorth@galw.org neu helpline@galw.org. Mae'r llinell ar agor o 9.30am i 8.00pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ac o 2.00pm tan 8.00pm ar y Sul. Cost galwadau yw pris galwad lleol, er bydd costau o ffonau symudol yn amrywio. A does dim angen gofyn am ganiatâd rhiant cyn ffonio!! Gwefan > Gwaith CartrefLlinell Gwaith Cartref
Cefnogi Gwaith Cartref

Llinell Gyswllt Cymorth Gyda'r Gymraeg

Mae'r Llinell Gyswllt 0845 6076070 yn wasanaeth unigryw sy'n cynnig gwybodaeth gyffredinol am Gymru a'r Gymraeg. Mae'r Llinell yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

  • cyfieithu hyd at 30 o eiriau
  • golygu hyd at 75 o eiriau
  • cyfieithu bwydlenni o bob math
  • cynnig gwybodaeth am bob agwedd ar Gymru a'r Gymraeg
  • cynnig gwasanaeth ymgynghorol ar enwau lleoedd yng Nghymru

A hyn oll yn rhad ac am ddim. Gwefan > Llinell Gyswllt

Llinell Gyswllt


 

Iaith Gwaith

Amcan cynllun Iaith Gwaith yw annog busnesau, sefydliadau a’r cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog. Mae hefyd yn gyfle i bobl ddangos eu bod yn hapus i siarad Cymraeg neu’n dysgu’r iaith.

Bathodynnau
Prif gyfrwng y cynllun yw bathodyn. Mae dau fath o fathodyn – un i siaradwyr Cymraeg ac un i ddysgwyr.
Iaith Gwaith Dysgu Cymraeg

Gwefan - Cymraeg Iaith Busnes

Cymraeg i Oedolion

Ydych chi am ddysgu Cymraeg neu wella'ch sgiliau Cymraeg? Mae'r holl wybodaeth ar gael i chi ar y Llinell Wybodaeth Cymraeg i Oedolion - 0871 230 0017. a gwefan Cymraeg i Oedolion 

 

Cynlluniau Gweithredu Iaith

Prosiectau arbrofol yw'r cynlluniau gweithredu iaith i hyrwyddo'r Gymraeg mewn ardaloedd lle mae angen hwb arni. Nod y cynlluniau yw cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith gymunedol a chymdeithasol drwy weithio gyda phobl leol a sefydliadau. Mae swyddogion y Bwrdd yn hwyluso'r gwaith drwy ddod â phawb at ei gilydd – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol – sydd â diddordeb mewn datblygu'r iaith yn y gymuned. Mae cynlluniau wedi'u sefydlu yn Abergwaun, Aberteifi, Rhydaman, Corwen, Casnewydd, Machynlleth, Rhuthun, Pwllheli a Phen Llŷn a Llanrwst. Os am ragor o fanylion am gynlluniau gweithredu iaith, cysylltwch â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 029 2087 8000.

 

Grantiau ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dosrannu dros £4m i gyrff cyhoeddus a gwirfoddol.

 

Grantiau bach

Nod y grant yw ysgogi sefydliadau i weithredu'n ddwyieithog a'u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg. 
Mae’r grant yn cynnig cymorth ariannol - hyd at uchafswm o £1000 - i fusnesau a chyrff gwirfoddol sy’n dymuno cynhyrchu deunydd dwyieithog megis taflenni, llyfrynnau, arwyddion a gwefannau.
Am wybodaeth ynglŷn â'r grant ac er mwyn derbyn ffurflen gais, cysylltwch â: 01269 590216 - sdoughton@sirgar.gov.uk fel arall, gallwch lwytho’r ffurflen gais i’ch cyfrifiadur. Ffurflen

Cliciwch yma i fynd i wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg >>Bwrdd yr Iaith Gymraeg

NAWS AM LE : Cynllun Grant Arwyddion Dwyieithog

Cynllun ariannir gan Croeso Cymru yw Naws am Le ac mae’n cyfrannu tuag at gostau arwyddion dwyieithog newydd (mewnol ac allanol), gan fusnesau bach a chanolig.  Cynigir grantiau hyd at 50% am brosiectau cymwys dros £100 hyd at uchafswm o £1,000 i un busnes.  Gweinyddir y grant gan CYMAD. Mae gweinyddiaeth y cynllun wedi symud i swyddfa CYMAD yn Dinas Mawddwy.  Am ffurflenni cais/rhagor o daflenni neu wybodaeth bellach cysylltwch â;
Gwawr Davalan, Swyddfa Menter, Dinas Mawddwy. Machynlleth. Powys. SY20 9JA  01650 531 582
e-bost: gwawr@cymad.org

 

 

Rhai o bartneriaid Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Yr Urdd - Mudiad Ysgolion Meithrin - Mentrau Iaith - Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru


Mentrau Iaith Cymru| Cysylltwch |
MENTRAU IAITH CYMRU CYF. Y SGWAR. LLANRWST. CONWY. LL26 0LG Cwmni Cofrestredig Rhif:. 04134269