Mentrau Iaith Cymru

 

yn hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned
promoting the Welsh language in the community

English

Gwybodaeth


Prosiectau


Cysylltiadau

Cefnogwch

Gwefannau y Mentrau Iaith

MIC a C2

Brwydr y Bandiau

Rheolau 2008 > Rheolau

Brwydr y Bandiau 1

Brwydr y Bandiau 2008

Mae rownd derfynol ByB08 ar nos Fercher Gorffennaf 2il gyda bandiau Tempo, Stone Free ac Yr Offbeats. Cofiwch wrando ar C2 Radio Cymru.

24/06/2008

Rownd Gyn-derfynol 2008

Rownd Gyn-Derfynol ByB
21 Mai 2008
Pwy? Pryd? Lle? Manylion y rownd nesaf i gyd!

Mae 'r rowndiau rhanbarthol drosodd.
Amser felly i edrych ymlaen tuag at rowndiau cyn derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 Radio Cymru 2008.

Mi fydd y rowndiau yn digwydd dros 3 noson ar C2 sef Nos Fawrth, Mercher a Iau 3 - 5 Mehefin rhwng 8 a 10 o'r gloch ar raglen Magi Dodd.

Er mwyn penderfynu pa fandiau fydd yn cystadlu pa noson, mi wnaeth Dafydd o'r band Coda ddod i stiwdios moethus C2 at Magi i dynnu enwau'r bandiau o het.

A dyma'r canlyniad:
Nos Fawrth 3 Mehefin
Ocsimoronig
Heretica
Tempo
Nos Fercher 4 Mehefin
Liam Rickard
Caswallon ap Cranc
Stone Free
Nos Iau 5 Mehefin
T.S.S
Road Kill
Yr Offbeats
26/05/2008
Byddwch yn Barod i Frwydro!

Byddwch yn Barod i Frwydro!

Pwy fydd y Radio Luxembourg, Frizbee, Euros Childs neu’r Genod Droog nesa’? Dyma beth mae Mentrau Iaith Cymru ac C2 BBC Radio Cymru am ei ddarganfod wrth iddyn nhw lansio cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2008, un o’r cystadlaethau mwyaf yng Nghymru i ddod o hyd i’r band mawr nesaf.

Bydd y band buddugol yn cael y cyfle i recordio sesiwn i raglen C2, i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru, perfformio ym Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 ac ar daith C2 Bandit heb sôn am ymddangos ar raglen deledu Bandit ac Uned 5 ar S4C.

Mae croeso i fandiau ac artistiaid o unrhyw fath gystadlu - roc, hip-hop, jazz, blues, pop, gwerin neu ddawns. Does dim ots faint o aelodau sydd yn y band ac mae croeso i artistiaid unigol a deuawdau.

Rhaid i hanner aelodau’r band fod yn 21 mlwydd oed neu yn iau, bod y band neu artist heb ryddhau CD sydd ar werth mewn siopau (heblaw am ymddangos ar CD amlgyfrannog), a’u bod yn medru perfformio tair cân yn y Gymraeg. Mae mor syml â hynny!

I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth, cysylltwch â’ch Menter Iaith leol cyn gynted a phosib – mae manylion cyswllt ar wefan www.mentrau-iaith.com.
31/03/2008
Mentrau Iaith Cymru| Cysylltwch |
MENTRAU IAITH CYMRU CYF. Y SGWAR. LLANRWST. CONWY. LL26 0LG Cwmni Cofrestredig Rhif:. 04134269